Devo

Devo
Devo ar y llwyfan, yn eu gwisgoedd llachar melyn nodweddiadol
Devo yng Ngŵyl Forecastle, yn 2010
Chwith i'r dde: Gerald Casale (bas), Mark Mothersbaugh (llais), Bob Casale (allweddellau), a Bob Mothersbaugh (gitâr)
Y Cefndir
TarddiadKent ac Akron, Ohio, U.D.A.
Math o Gerddoriaeth
Cyfnod perfformio
  • 1973 (1973)–1991 (1991)
  • 1996–presennol
Label
  • Warner Bros
  • Virgin
  • Enigma
  • Rykodisc
  • Rhino
  • Stiff
  • Restless
Perff'au eraill
Gwefanclubdevo.com
Aelodau
Cyn-aelodau

Mae Devo yn grŵp 'new wave' arloesol Americanaidd a ffurfiwyd ym 1972 gan aelodau o drefi Kent ac Akron, Ohio.

Cafodd Devo beth lwyddiant gyda'r caneuon Jocko Homo (1978) a Whip it (1980) a'u fersiwn o I Can't get No Satisfaction (1977). Er byth yn llwyddiant masnachol mawr, mae Devo wedi magu dilyniant sylweddol o ffans ac wedi chwarae dros y byd am dros 40 mlynedd.

Mae steil Devo yn cynnwys elfennau kitsch, Americana, ffuglen-wyddonol, eironi, parodi, hiwmor a sylwebaeth cymdeithasol.

Mae'r enw 'Devo' yn dod o'r syniad o 'De-evolution' hynny yw bod dynoliaeth yn estblygu yn y cyfeiriad anghywir, yn ôl yn hytrach nag ymlaen.[7]

Mae anthem Devo, Jocko Homo, yn barodi ar ddadl Jocko-Homo Heavenbound (1924) gan B. H. Shadduck[8] sydd yn gwrthod syniadaeth Charles Darwin. Mae'r gân yn cynnwys y geiriau "I can do what a monkey can do / God made man / But a monkey supplied the glue"[9] Mae nifer fawr o Americanwyr yn ddal i wrthod theori Esblygiad, cymaint â 46% yn 2012 yn ôl arolwg barn Gallup.[10]

  1. 1.0 1.1 Long, Pat (2 Mai 2009). "Pat Long meets new wave 80s oddballs Devo, who are intent on making a comeback". The Guardian. London. Cyrchwyd 26 Tachwedd 2015.
  2. 2.0 2.1 "Devo". AllMusic. Cyrchwyd 26 Tachwedd 2015.
  3. 3.0 3.1 Ring, Julian (24 Mehefin 2013). "Devo Assemble Synthetic Blues in 'Auto Modown' - Song Premiere". Rolling Stone. New York City. Cyrchwyd 3 Rhagfyr 2015.
  4. Aston, Martin. "Devo: Where Are They Now?" Q, Hydref 1995
  5. Steinberg and Michael Kehler (2010), t.355
  6. Reynolds, Simon (2005). Rip It Up and Start Again: Postpunk 1978–1984. Faber & Faber. ISBN 0571215696.
  7. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-08-01. Cyrchwyd 2015-07-22.
  8. http://rationalwiki.orgview_html.php?sq=Duran Duran&lang=cy&q=B.H._Shadduck
  9. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-22. Cyrchwyd 2015-07-22.
  10. http://www.gallup.com/poll/155003/Hold-Creationist-View-Human-Origins.aspx

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search